SL(6)354 – Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2023

Cefndir a diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (“Rheoliadau 2021”). Bydd y diwygiadau’n ymestyn y ddarpariaeth drosiannol ar gyfer y terfyn dal nitrogen blynyddol o 170kg/ha ar ledaenu tail da byw, a’r gofyniad cadw cofnodion cysylltiedig, ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn parth perygl nitradau (NVZ), a hynny o 30 Ebrill 2023 i 31 Hydref 2023.

Os yw daliadau eisoes o fewn NVZ, nid yw'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn effeithio ar y terfyn 170kg a'r gofyniad cadw cofnodion cysylltiedig.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Caiff y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn for y confensiwn 21 diwrnod (h.y. y confensiwn y dylai 21 diwrnod fynd heibio rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym) wedi’i thorri, a nodwn yr esboniad am dorri’r confensiwn a gynigiodd Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd,  mewn llythyr at y Llywydd, dyddiedig 26 Ebrill 2023. Mae'n nodi fel a ganlyn:

“Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yn ceisio mynd i'r afael ag achosion llygredd dŵr sy’n deillio o weithgareddau amaethyddol ar draws Cymru. Daeth cam 2 y rheoliadau i rym ar 1 Ionawr 2023 ond, mewn perthynas â daliadau neu ran o ddaliadau nas lleolwyd o'r blaen o fewn parth perygl nitradau ("NVZ"), estynnwyd y ddarpariaeth drosiannol ar gyfer y terfyn dal nitrogen blynyddol o 170kg/ha ar ledaenu tail da byw (y 'terfyn 170kg') a’r gofynion adrodd cysylltiedig tan 30 Ebrill 2023.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn y ddarpariaeth drosiannol ar gyfer y terfyn dal nitrogen blynyddol o 170kg/ha ar ledaenu tail da byw (y 'terfyn 170kg') a'r gofynion adrodd cysylltiedig mewn perthynas â daliadau neu ran o ddaliadau nas lleolwyd o'r blaen mewn NVZ eto o fis Ebrill 2023 i 31 Hydref 2023.

Yn ddiweddar buom yn ymgynghori ar gynigion i gyflwyno cynllun trwyddedu i fusnesau fferm nas lleolwyd o'r blaen mewn NVZ i weithio i derfyn dal nitrogen blynyddol uwch o 250kg/ha, a hynny’n amodol ar angen cnydau ac ystyriaethau cyfreithiol eraill. Cafwyd dros 1,500 o ymatebion i'r ymgynghoriad ac roedd rhanddeiliaid yn poeni y gallai cynllun trwyddedu fod yn gostus ac yn gymhleth i'w weithredu. Rydym felly'n gwneud gwaith pellach i ystyried opsiynau ar gyfer rheoleiddio’r defnydd o nitrogen ac mae angen mwy o amser i gwblhau'r gwaith hwn cyn gweithredu terfyn blynyddol o 170kg/ha. Yng ngoleuni hynny mae angen inni estyn y cyfnod trosiannol mewn perthynas â'r terfyn 170kg/ha am chwe mis arall.

Yn benodol, nodwn yr hyn y mae’r llythyr yn ei ddweud ynghylch diwedd y cyfnod trosiannol:

“Y rheswm dros beidio â chadw at y confensiwn 21 diwrnod yn yr achos hwn yw, os na ddaw'r Rheoliadau hyn i rym cyn 30 Ebrill 2023, yna mae'r cyfnod trosiannol mewn perthynas â'r terfyn 170kg ar gyfer daliadau neu ran o ddaliadau nas lleolwyd o'r blaen mewn NVZ yn dod i ben a byddai bwlch yn y ddarpariaeth drosiannol. Mae estyn y darpariaethau trosiannol mewn perthynas â'r terfyn 170kg a'r gofynion adrodd cysylltiedig tra ein bod yn parhau i ddatblygu ein cynigion ymhellach yn rhoi sicrwydd cyfreithiol i fusnesau fferm nas lleolwyd o'r blaen mewn NVZ.

 

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2023. Mae paragraff 4 o’r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau:

...rhaid i'r ddeddfwriaeth ddod i rym erbyn 29 Ebrill 2023 er mwyn sicrhau nad yw'r cyfnod trosiannol… yn dod i ben ac felly nad oes bwlch yn y ddarpariaeth drosiannol”.

Fodd bynnag, mae paragraff 8 o’r Memorandwm Esboniadol yn nodi’n anghywir fel a ganlyn:

“Gwneir y Rheoliadau hyn o dan y weithdrefn penderfyniad negyddol a deuant i rym ar 30 Ebrill 2023.”

Diffinnir Rheoliadau 2021 ym mharagraff 1 o’r Memorandwm Esboniadol, a defnyddir y diffiniad ym mharagraffau 10 ac 11 y Memorandwm Esboniadol, ond ni chaiff ei ddefnyddio ym mharagraffau diweddarach y Memorandwm Esboniadol. Nid yw hyn yn helpu'r darllenydd i ddeall at ba reoliadau y mae hyn yn cyfeirio. Nid yw'n glir ar unwaith i ddarllenydd pa reoliadau sy'n cael eu trafod. Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, (paragraff 16 o'r Memorandwm Esboniadol) yn cyfeirio at “dyddiad gweithredu’r rheoliadau”. Mae paragraff 17 o’r Memorandwm Esboniadol yn nodi, os mai busnes fel arfer oedd yr opsiwn a ddewisir, “byddai'r Rheoliadau yn dod i rym o 30 Ebrill 2023”. Nid yw’n glir a yw’r cyfeiriadau hyn yn golygu Rheoliadau 2021 (fel y’u diffinnir ym mharagraff 1) neu’r Rheoliadau hyn. Rydym yn cymryd eu bod yn golygu Rheoliadau 2021. Mae paragraff 18 wedyn yn cyfeirio at y “Rheoliadau”, ac rydym yn cymryd bod hyn yn golygu Rheoliadau 2021. Mae paragraff 20 yn nodi “os caiff y Rheoliadau eu diwygio fel y'i cynigir”, ac rydym yn cymryd bod hyn yn golygu Rheoliadau 2021. Dilynir hyn ym mharagraffau 22-24 gyda'r defnydd o “y Rheoliadau” ym mhob un ohonynt. Unwaith eto, cymerwn fod y cyfeiriadau hyn yn golygu Rheoliadau 2021.

Gall y diffyg eglurder rhwng y ddarpariaeth yn y Rheoliadau eu hunain, ar y naill law, a’r hyn a ddisgrifir yn y Memorandwm Esboniadol (mewn rhai mannau sy’n gwrthdaro, yn achos y dyddiad dod i rym), achosi dryswch diangen i ddarllenwyr y ddeddfwriaeth, yn enwedig o ystyried cymhlethdod technegol testun Rheoliadau 2021.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

3 Mai 2023